Isaiah 18

Duw yn cosbi Ethiopia

1Gwae wlad yr adenydd chwim

wrth afonydd dwyrain Affrica!
18:1 dwyrain Affrica Hebraeg,  Cwsh, sef yr ardal i'r de o'r Aifft, yn cynnwys rhannau o Swdan ac Ethiopia heddiw.
,
b
Mae'n anfon negeswyr dros y môr,
mewn cychod brwyn ar wyneb y dŵr.
2Ewch, negeswyr cyflym,
at genedl o bobl dal gyda chroen llyfn –
pobl sy'n cael eu hofni ym mhobman;
cenedl gref sy'n hoffi ymladd,
sydd â'i thir wedi ei rannu gan afonydd.
3“Gwrandwch bawb drwy'r byd i gyd;
pawb sy'n byw ar y ddaear:
Byddwch yn ei weld!
– fel baner ar ben y bryniau.
Byddwch yn ei glywed!
– fel sŵn y corn hwrdd
18:3 corn hwrdd Hebraeg, “shoffar”
yn cael ei chwythu!”
4Dyma ddwedodd yr Arglwydd wrtho i:
“Dw i'n mynd i aros yn llonydd ac edrych o'm lle –
fel tes yr haul yn tywynnu,
neu gwmwl gwlith yng ngwres y cynhaeaf.”
5Adeg y cynhaeaf grawn,
pan mae'r blagur wedi mynd,
a'r grawnwin yn dechrau aeddfedu,
bydd yn torri'r brigau gyda chyllell,
ac yn tocio'r canghennau sy'n lledu.
6Bydd y cwbl yn cael ei adael
i'r eryrod ar y mynydd
ac i'r anifeiliaid gwylltion.
Bydd yr adar yn byw drwy'r haf arnyn nhw,
a'r anifeiliaid gwylltion trwy'r gaeaf.
7Bryd hynny bydd pobl dal gyda chroen llyfn
yn dod â rhoddion i'r Arglwydd holl-bwerus –
pobl sy'n cael eu hofni ym mhobman;
cenedl gref sy'n hoffi ymladd,
sydd â'i thir wedi ei rannu gan afonydd.
Dônt i'r lle mae enw'r Arglwydd holl-bwerus arno:
i Fynydd Seion.
Copyright information for CYM